Prof Paul Mealor LVO CStJ

Cyfarwyddwr Artistig

Ar hyn o bryd, Paul Mealor (g. 1975) yw un o gyfansoddwyr  a berfformir ei gerddoriaeth amlaf drwy’r  byd. Mae wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhai o achlysuron gwladwriaethol, cenedlaethol a brenhinol pwysicaf y DU yn ystod y deng mlynedd diwethaf, gan gynnwys priodas Tywysog a Thywysoges Cymru (2011), penblwyddi’r Brenin Siarl yn 65, 70 a 75, dau waith i Wasanaeth Diolchgarwch Cenedlaethol y diweddar Frenhines Elizabeth II (2022), dau waith i’r Coroni (2023) – gan gynnwys y gosodiad cyntaf erioed o’r  Gymraeg yn y  Coroni, a thri gwaith i The Honours of Scotland Service (2023).

Mae hefyd wedi ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer ffilm a theledu gan gynnwys y sgôr i ‘Wonders of the Celtic Deep’ sydd wedi ennill gwobr BAFTA, tair opera, pedair symffoni, concerti, cerddoriaeth siambr, llawer o gerddoriaeth corawl a chaneuon, gan gynnwys Rhif 1 Nadolig 2011, ‘Wherever You Are’ i Gareth Malone a’r Military Wives Choir.

Mae wedi derbyn llawer o wobrau ac anrhydeddau am ei waith, gan gynnwys graddau er anrhydedd, cymrodoriaethau ac ym mis Ionawr 2024 fe’i penodwyd i’r Urdd Fictoraidd Frenhinol (LVO) gan y  Brenin Siarl III am ei gyfraniad eithriadol i Gerddoriaeth Frenhinol. Ef yw’r cyfansoddwr cyntaf i dderbyn y clod hwn ers Syr Arthur Bliss yn 1969 a chyn hynny, Syr Arnold Bax a Syr Edward Elgar.