Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd

Mae Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru (GGRGC) yn ymrwymedig i warchod eich preifatrwydd a sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei gadw’n saff a diogel gan gadw o fewn deddfwriaeth gwarchod data a’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn ffurfio rhan o Delerau ac Amodau ein gwefan. Mae hefyd yn nodi sut rydym ni’n trin unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei rannu gyda ni, mewn perthnasedd â deddfau gwarchod data Cymru a Lloegr a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (‘GDPR’). Mae’r ddogfen hon hefyd yn amlinellu yr hawliau pwysig mae GDPR yn ei roi i chi dros eich data.

Drwy ymweld â’r wefan hon (www.nwimf.com) rydych chi’n derbyn ac yn cytuno â’r arferion a ddisgrifiwyd yn ein Polisi Preifatrwydd.

Os nad ydych chi’n cytuno â’r polisi hwn, dylech allgofnodi a chlirio eich porwr gwe rhag unrhyw cwcis sydd wedi cael eu storio gan eich porwr gwe o’n gwefan ni yn y cyfamser.

Mathau o ddata rydym ni’n ei brosesu

Gallwn brosesu y mathau canlynol o ddata:

  • Data personol rydych chi’n ei ddarparu i ni – mae’n bosibl y byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol i ni drwy ein gwefan (e.e. wrth i chi danysgrifio i’n rhestr ebostio neu gofrestru ar gyfer gweithgaredd), neu pan fyddwch chi’n cysylltu â ni neu ofyn i ni gysylltu efo chi dros ebost, ffôn, post neu mewn person. Gall y data amdanoch chi / eich plentyn / dibynnydd gynnwys pethau megis

• Enw
• Cyfeiriad ebost
• Rhifau ffôn
• Dyddiad geni
• Cyfeiriad post
• Unrhyw wybodaeth arall rydych chi’n teimlo ei fod yn angenrheidiol i’w rannu efo ni er mwyn sicrhau y gofal gorau ohonoch chi / eich plentyn neu ddibynnydd tra yn cymryd rhan yn ein gweithgareddau.

  • Data mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau neu drafodion rhyngom ni a chi.

  • Ffotograffau a Ffilmio: Byddwn yn eich gwneud yn ymwybodol os bydd ffotograffau neu ffilmio yn digwydd mewn digwyddiad neu weithgaredd yr ydych yn ei fynychu a drefnwyd gennym ni. Byddwn yn gofyn am ganiatâd gan rieni / gwarchodwyr cyn i ni dynnu llun / ffilmio unrhyw blentyn yn cymryd rhan neu’n mynychu ein digwyddiadau ac yn esbonio sut y bydd y lluniau / ffilm yn cael eu defnyddio.

  • Gwybodaeth dechnolegol / ystadegol am y math o ddyfais rydych chi’n ei ddefnyddio er mwyn ymweld â’n gwefan a sut rydych chi’n ei ddefnyddio, pa safleoedd gwe rydych chi wedi ymweld cyn dod i’n gwefan ni (e.e. os rydych chi wedi dod i’n gwefan ni drwy borwr gwe neu ddolen o wefan arall), data am y cyfrifiadur sy’n cael ei ddefnyddio (e.e. cyfeiriad IP), eich lleoliad, y math o borwr gwe rydych chi’n ei ddefnyddio, am ba hyd rydych chi wedi bod yn defnyddio’r wefan a’r tudalennau rydych chi wedi ymweld â hwy. Mae’r wybodaeth hon yn gyffredinol yn cael ei hystyried yn anhysbys.

  • Unrhyw ddata arall rydych chi’n ei anfon atom ni.

Gall data rydych chi’n ei rannu gyda ni gael ei storio ar ein:

• systemau ebost
• gweinyddion gwe
• cronfeydd data
• gwasanaeth storfa cwmwl
• cyfrifiaduron sydd wedi eu gwarchod â chyfrineiriau
• copïau caled wedi eu storio yn ddiogel

Ni fyddwn yn gwerthu eich data personol i drydydd parti. Rydym yn defnyddio sefydliadau trydydd parti dethol er mwyn storio, prosesu a dadansoddi data. Mae’r rhain yn cynnwys ein gwasanaeth marchnata drwy ebost, storfa cwmwl, cwmni prosesu swyddfa docynnau, gwasanaeth sy’n darparu gwybodaeth ddadansoddol o ymwelwyr i’n gwefan, ein gweinydd gwe a chyfrifon ebost. Rydym ni’n cymryd camau er mwyn sicrhau bod y trydydd partïon hyn yn cydymffurfio â chyfreithiau diogelu data a GDPR.

Cwcis a Google Analytics

Mae cwci yn cynnwys gwybodaeth a anfonwyd gan weinydd gwe (web server) i borwr gwe, ac sy’n cael ei storio gan y porwr gwe. Mae’r wybodaeth yna’n cael ei hanfon yn ôl i’r gweinydd gwe bob tro mae’r porwr yn gwneud cais am dudalen gan y gweinydd gwe. Mae hyn yn galluogi’r gweinydd gwe i adnabod ac olrhain y porwr gwe.

Rydym ni’n defnyddio cwcis “sesiwn” (“session” cookies) a cwcis “parhaus” (“persistent” cookies) ar y wefan. Byddwn yn defnyddio cwcis sesiwn er mwyn: eich olrhain tra eich bod yn defnyddio’r wefan. Byddwn yn defnyddio cwcis parhaus er mwyn: ein galluogi i’ch adnabod pan fyddwch yn ymweld.

Bydd cwcis sesiwn yn cael eu dileu o’ch cyfrifiadur pan fyddwch yn cau eich porwr gwe. Bydd cwcis parhaus yn aros wedi eu storio ar eich cyfrifiadur hyd y byddent yn cael eu dileu, neu eu bod yn cyrraedd dyddiad dod i ben penodol.

Rydym ni’n defnyddio Google Analytics er mwyn dadansoddi’r defnydd a wneir o’r wefan hon. Mae Google Analytics yn cynhyrchu ystadegau a gwybodaeth arall am wefan drwy gyfrwng cwcis, sy’n cael eu storio ar gyfrifiaduron defnyddwyr. Mae’r wybodaeth a gynhyrchwyd sy’n berthnasol i’n gwefan ni yn cael ei defnyddio er mwyn cynhyrchu adroddiadau am y defnydd a wneir o’r wefan. Bydd Google yn storio’r wybodaeth hon. Mae polisi preifatrwydd Google ar gael yma: http://www.google.com/policies/privacy/.

Mae’r rhan helaethaf o borwyr gwe yn eich galluogi i wrthod bob cwci, tra mae porwyr gwe eraill yn eich galluogi i wrthod cwcis trydydd parti yn unig. Er enghraifft, yn Internet Explorer gallwch wrthod bob cwci drwy glicio “Tools”, “Internet Options”, “Privacy”, a dethol “Block all cookies” drwy ddefnyddio’r detholydd llithro. Bydd blocio bob cwci, fodd bynnag, yn cael effaith negyddol ar ddefnyddioldeb llawer o wefannau, gan gynnwys y wefan hon.

Dolennau i wefannau trydydd parti

O dro i dro, gallwn gyhoeddi dolen ar ein gwefan i wefannau trydydd parti. Nid ydym ni’n gyfrifol, nac yn atebol am reolaeth, cynnwys na diogelwch y gwefannau trydydd parti hyn. Anogwn ymwelwyr i adolygu polisi preifatrwydd gwefannau trydydd parti cyn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol.

Marchnata

Byddwn yn rhoi cyfle i chi optio-mewn i dderbyn ebyst am ein newyddion a digwyddiadau diweddaraf. Mae’r ebyst hyn yn cael eu hanfon ar hyn o bryd trwy ddefnyddio y gwasanaeth trydydd parti. Rydym yn casglu gwybodaeth ystadegol ynghylch sawl ebost sydd wedi cael ei agor a sawl person sydd wedi clicio ar yr ebyst drwy ddefnyddio technolegau safonol y diwydiant i’n helpu ni i fonitro a gwella ein ebyst. Mae modd i chi ddad-danysgrifio unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen ‘dad-danysgrifio’ ar waelod yr ebyst neu drwy gysylltu â’r swyddfa.

Defnyddio data personol

Gall unrhyw ddata personol rydych chi’n ei ddarparu i ni gael ei ddefnyddio ar gyfer y dibenion a nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn neu ar adrannau perthnasol o’n gwefan.

Mewn perthnasedd â GDPR yr Undeb Ewropeaidd, rydym yn prosesu data ar sail:

  • Caniatâd: mae’r unigolyn wedi rhoi caniatâd yn glir er mwyn i ni brosesu eu data personol at ddiben penodol.

  • Contract: lle bo’r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer contract sydd gennym ni gyda’r unigolyn, neu gan eu bod nhw wedi gofyn i ni gymryd camau penodol cyn ymrwymo i gontract.

  • Oblygiad Cyfreithiol: bod y prosesu yn angenrheidiol er mwyn i ni gydymffurfio â’r gyfraith.

  • Diddordeb hanfodol: mae’r prosesu yn angenrheidiol er mwyn diogelu bywyd.

  • Tasg gyhoeddus: mae’r prosesu yn angenrheidiol i ni berfformio tasg sydd o ddiddordeb cyhoeddus neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, a bod gan y dasg neu swyddogaeth sail clir yn y gyfraith.

  • Buddiannau cyfreithlon: lle bo’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon neu buddiannau cyfreithiol trydydd parti oni bai bod yna reswm da i ddiogelu data personol yr unigolyn a fyddai’n cael blaenoriaeth dros y buddiannau hynny.

Datgeliadau eraill

Yn ogystal â’r datgeliadau sy’n rhesymol angenrheidiol at y dibenion a nodwyd mewn mannau eraill yn y Polisi Preifatrwydd hwn, efallai y byddwn yn datgelu gwybodaeth amdanoch chi:

  • i’r graddau y mae’n ofynnol i ni wneud hynny gan gyfreithiau Cymru a Lloegr a GDPR yr Undeb Ewropeaidd;

  • mewn cysylltiad ag unrhyw achos cyfreithiol neu achos cyfreithiol posibl;

  • er mwyn sefydlu, ymarfer neu amddiffyn ein hawliau cyfreithiol (gan gynnwys darparu gwybodaeth i eraill at ddibenion atal twyll a lleihau risg credyd).

Trosglwyddiadau Data Rhyngwladol

Yn dibynnu ar natur eich ymholiad a’ch perthynas gyda ni, mae’n bosibl y bydd data personol yr ydych yn ei rannu gyda ni yn cael ei brosesu yn y DU ac mewn lleoliadau y tu allan i’r DU a’r UE er mwyn ein galluogi i ddarparu’r gwasanaethau i chi.

Diogelwch Data

Rydym wedi cymryd rhagofalon technegol a gweithdrefnol rhesymol i atal colli, camddefnydd neu newid anfwriadol eich data personol ar ffurf copi caled a digidol.

Hawliau allweddol yn ôl GDPR:

Mae GDPR yn rhoi yr hawl i chi ofyn am weld y wybodaeth bersonol ‘rydym yn ei ddal arnoch chi. Mae modd i chi gyflwyno Cais Testun am weld Data i ni trwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. Byddwn yn cydymffurfio â’r ceisiadau hyn o fewn mis (oni bai bod amgylchiadau yn ein rhwystro ni rhag gwneud e.e. bod yna reswm cyfreithiol am beidio gwneud).

Rhoi a thynnu yn ôl eich caniatâd i gysylltu â chi

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen i ni gael eich caniatâd i brosesu eich data.

  • Efallai y byddwn yn gofyn am eich caniatâd, er enghraifft, pan fyddwch chi’n llenwi un o’n ffurflenni cyswllt a’ch bod yn rhoi eich caniatâd trwy dicio’r blwch ar y ffurflen.

  • Rydym hefyd yn cadw cofnod o’ch caniatâd nes na fyddwn ei angen. Gallwch dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Diweddaru a Dileu eich Data Personol

Dylech ofyn i ni gywiro neu ddiweddaru unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi e.e. os ydych chi’n newid eich enw neu’ch cyfeiriad, er enghraifft.

Gallwch ofyn i ni ddileu unrhyw wybodaeth rydym yn ei ddal amdanoch chi ar unrhyw adeg. Byddwn yn gwneud hyn yn unol â chyfreithiau cymwys Cymru a Lloegr a deddfau a rheoliadau’r UE, GDPR.

Nodwch fod gennym oblygiadau cyfreithiol i gadw rhai mathau o wybodaeth am gwsmeriaid am gyfnodau penodol e.e. at ddibenion cyfrifo.

Byddwn ond yn cadw gwybodaeth am y cyfnod sydd ei angen o ran y gwasanaethau yr ydych wedi holi amdanynt, neu yr ydym wedi cytuno i’w ddarparu, neu i fodloni gofynion cyfreithiol.

Gallwch ofyn i ni ddiweddaru neu ddileu eich data personol ar unrhyw adeg trwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Darganfod mwy am eich hawliau o dan ddeddf GDPR a’ch hawl i gyflwyno cwyn.

Mae modd darganfod mwy am eich hawliau yn ôl GDPR drwy ymweld â gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) (DU).

Newidiadau i’r polisi hwn

Efallai y byddwn yn diweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd trwy bostio fersiwn newydd ar ein gwefan.

Dylech wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd er mwyn sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi hwn, mae croeso i chi gysylltu gyda ni a byddwn yn ymdrechu i ateb eich cwestiwn mor gyflym a chlir ag y gallwn.

Manylion Cyswllt

Caroline Thomas (Rheolwr yr Ŵyl, Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru)
Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru
c/o Salisburys
Stryd Fawr
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0RL

caroline@nwimf.com

This policy was updated March 2020