11 – 20 Medi 2025
Eglwys Gadeiriol Llanelwy

Tocynnau ar werth ddydd Iau 12 Mehefin

Croeso gan y Cyfarwyddwr Artistig

Thema: Canfyddiadau

Mae’n bleser gennyf eich croesawu i’r wefan hon ar gyfer Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru 2025. Bydd lansiad yr Ŵyl ar  Mehefin 12ed 2025 yn gweld y tudalennau hyn yn llenwi â gwybodaeth lawn am yr artistiaid gwych sy’n cymryd rhan eleni, manylion rhaglenni, comisiynau, ein digwyddiadau ymylol, dosbarthiadau meistr, sgyrsiau, a sut y gallwch archebu’ch tocynnau.

Tan hynny, gadewch i mi eich cyflwyno i thema eleni… sef dathlu ac ymchwilio i’r cysylltiadau cryf rhwng cerddoriaeth a’r meddwl dynol wrth i ni dreiddio i fyd amlochrog ‘Canfyddiadau’. Mae pwysigrwydd cerddoriaeth a’r celfyddydau wrth gefnogi a hybu iechyd meddwl da yn hysbys, ac wedi’i ddogfennu’n dda gan wyddonwyr a seicolegwyr ledled y byd a, thrwy gyfres o gyngherddau, gweithdai, dosbarthiadau meistr a thrafodaethau, ceisiwn archwilio’r agweddau cadarnhaol hyn ar gerddoriaeth ar gyfer ein lles meddyliol.

Paul Mealor LVO CStJ