2025 Cystadleuaeth Pendine: Cerddor Ifanc Cymru

Cerddor Ifanc Cymru Pendine 2025
Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Celf a Chymunedau Pendine a BBC Radio Cymru

Eich cais. Unwaith y byddwch wedi lawr lwytho Canllawiau’r Gystadleuaeth, a chwblhau eich Ffurflen Gais, gallwch anfon y ffurflen, dogfen yn profi eich oedran a’ch fideo neu glip sain i ni drwy ddefnyddio’r botwm ‘Uwchlwytho eich ffeiliau’.

Gwobrau:
1af: £2,000 a Thlws Pendine, gyda gwahoddiad i berfformio yn GGRGC 2026
Ail: £1,000
Cydradd 3ydd: £500 yr un

Mae Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Pendine yn gyfle unigryw i gerddorion ifanc sydd wedi eu geni neu yn byw yng Nghymru i arddangos eu doniau yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, i gael beirniadaeth gan feirniaid enwog byd eang, derbyn adborth arbenigol ar eu perfformiad a pherfformio mewn lleoliad gydag un o’r acwsteg gorau yng Nghymru, Cadeirlan Llanelwy, yn ogystal â chael eu darlledu ar BBC Radio Cymru.