Dydd Iau 12 Medi 17:30 - 18:30 & 20:00 - 21:00
Gresffordd: I’r Goleuni ‘Nawr
Dydd Iau 12 Medi 17:30 - 18:30 & 20:00 - 21:00
Rhaglen
Sinfonia NEW, Lleisiau NEW ac Unawdwyr
Gresffordd: I’r Goleuni ‘Nawr
Perfformiad cyntaf: 17:30 - 18:30
Ail berfformiad: 20:00 - 21:00
Premiere byd o waith newydd gan y cyfansoddwr o Gymru, Jon Guy a’r bardd o Gymru, Grahame Davies yn nodi 90 mlynedd ers Trychineb Mwyngloddio Gresffordd (cyd-gomisiwn GGRGC).
Wedi’i recordio ar gyfer y BBC Radio Cymru
Ymunwch â ni ar gyfer brosiect mwyaf uchelgeisiol NEW Sinfonia erioed – opera gymunedol newydd sbon gyda cherddoriaeth gan Jon Guy a libreto gan Grahame Davies wedi seilio ar stori Trychineb Glofaol Gresffordd gan amlygu ymdeimlad cryf Wrecsam o gymuned yn hanesyddol a phresennol.
Ar ddydd Sul 22 Medi 2024, bydd 90 mlynedd wedi bod ers y trychineb tyngedfennol yng Nglofa Gresffordd, un o’r trychinebau glofaol gwaethaf yn hanes Prydain. Mae’r trychineb yn berthnasol ac yn arwyddocaol hyd heddiw, nid yn unig i bobl Wrecsam, ond i gymunedau glofaol ledled Cymru a ledled y DU. Fodd bynnag, ymhen ychydig flynyddoedd, mi fydd cof byw o’r trychineb yn cael ei ymrwymo i hanes.
Mae themâu colled, anghyfiawnder cymdeithasol, a di-rym, yn ogystal â buddugoliaethau dros adfyd a dathlu hunaniaeth ddiwylliannol i gyd yn ganolog i stori Gresffordd. Rydyn ni’n dod â’r stori emosiynol hon yn fyw, mewn ffordd sy’n ysgogi sgwrs, yn dod â phobl at ei gilydd, ac yn helpu cynulleidfaoedd (o bob cornel o’n cymuned) i gysylltu stori Gresffordd â’u profiadau cyfoes eu hunain.
Mae’r libreto gan Grahame Davies o Goedpoeth wedi’i osod i gerddoriaeth gan y cyfansoddwr a anwyd yn Wrecsam, Jon Guy, a bydd yn cael ei ganu a’i berfformio gan gast o gantorion opera proffesiynol, ein corws opera cymunedol NEW Lleisiau, a’n cerddorfa siambr NEW Sinfonia dan arweiniad Robert Guy.
Swyddfa Docynnau
Theatr Clwyd dros y ffôn ar gyfer e-docynnau - 01352 344101 (Llun - Sad, 10 - 6)
Cathedral Frames, Llanelwy - 01745 582929 (Mer - Gwe, 10 - 4)
Tocynnau:
Premiwm - £15
Cyffredin - £12
Heb eu cadw - £10