Cliciwch yma i archebu ar-lein

Cystadleuaeth Pendine: Cerddor Ifanc Cymru

Cerddor Ifanc Cymru Pendine 2024
Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Celf a Chymunedau Pendine a BBC Radio Cymru

Eich cais. Unwaith y byddwch wedi lawr lwytho Canllawiau’r Gystadleuaeth, a chwblhau eich Ffurflen Gais, gallwch anfon y ffurflen, dogfen yn profi eich oedran a’ch fideo neu glip sain i ni drwy ddefnyddio’r botwm ‘Uwchlwytho eich ffeiliau’.

Gwobr: £2000 a Thlws Pendine
a gwahoddiad i berfformio datganiad unigol yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru 2025

Mae Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Pendine yn gyfle unigryw i gerddorion ifanc sydd wedi eu geni neu yn byw yng Nghymru i arddangos eu doniau yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, i gael beirniadaeth gan feirniaid enwog byd eang, derbyn adborth arbenigol ar eu perfformiad a pherfformio mewn lleoliad gydag un o’r acwsteg gorau yng Nghymru, Cadeirlan Llanelwy, yn ogystal â chael eu darlledu ar BBC Radio Cymru.

Mae safon yr ymgeiswyr ar gyfer Cerddor Ifanc Pendine y Flwyddyn 2024 yn anhygoel o uchel. Felly, rydym wedi penderfynu uno adrannau 1, 2, 3 a 4 yn un digwyddiad cynderfynol fel y gall yr un beirniaid glywed pob rownd gynderfynol ar yr un noson (Rownd 2).

Mae hyn yn golygu na fydd digwyddiad ar ddydd Llun (Medi 16eg). Bydd pob rownd gynderfynol yn cystadlu ar ddydd Mawrth (Medi 17eg) o 6yh yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Nid yw’r newid hwn yn effeithio ar y Rownd Derfynol (Dydd Mercher 18fed o 7yh).