Cliciwch yma i archebu ar-lein

Ynghylch

Cyfarwyddwr Artistig

Gŵyl Gerdd Flynyddol

Mae Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn ŵyl o gerddoriaeth glasurol yn bennaf a gynhelir yn flynyddol ym mis Medi yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy gyda’i acwsteg wych, enwog.

Sefydlodd y cyfansoddwr Brenhinol enwog o Gymru, William Mathias, yr ŵyl ym 1972 ac mae’n cael ei hystyried yn un o uchafbwyntiau diwylliannol Gogledd Cymru.

Nodau’r Ŵyl

Amcan yr ŵyl yw meithrin gwerthfawrogiad, dealltwriaeth a mwynhad o gerddoriaeth glasurol ymhlith croesdoriad mor eang â phosibl o gymunedau Gogledd Cymru. Rydym yn rhoi cyfle i bobl o bob cefndir ac o bob oed brofi perfformiadau byw o ystod eang o gerddoriaeth glasurol, a gyflwynir gan berfformwyr o’r safon uchaf, gan hyrwyddo datblygiad diwylliant a cherddoriaeth Cymru yn y rhanbarth, ymhellach.

Yn benodol, mae yna dri prif bwynt i waith yr ŵyl: -

- Cyngherddau rhagorol yn cael eu perfformio yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy sy’n dangos ein huchelgais gyffrous a chreadigol trwy ansawdd, safon, ac enw da rhyngwladol yr artistiaid sy’n perfformio.

- Gwaith allgymorth gymunedol o safon uchel, gan gynnig mynediad i berfformiadau cerddoriaeth fyw pleserus a rhyngweithiol na fyddai rhai, fel arall, yn cael cyfle i brofi.

- Prosiectau addysg traws-gwricwlaidd ysbrydoledig a chynhwysol a gweithdai cerdd, ar gyfer plant o bob oed ledled Gogledd Cymru. Ein nod yw gwneud cerddoriaeth yn fwy cyraeddadwy i’r ieuenctid yn ein cymuned.

Bob blwyddyn rydym yn canoli’r Ŵyl o gylch thema gyffredin, sy’n cysylltu pob llinyn o’n gwaith. Mae hyn yn ein galluogi i ddarparu safbwyntiau diddorol ac anghyffredin, ymgysylltu â gweithiau llai cyfarwydd, ac mae’n cynnig profiad cerddorol cyfoethog i aelodau’r gynulleidfa, perfformwyr, a chyfranogwyr ein prosiect.

Rydym yn ymgorffori perfformwyr o Gymru yn rheolaidd, bob amser yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr o Gymru, ac yn comisiynu o leiaf un darn newydd gan gyfansoddwr o Gymru bob blwyddyn.

Llywydd: The Rt Revd Dr Gregory Cameron, Esgob Llanelwy
Is-Llywyddion: Ann Atkinson, Trefor Jones CVO CBE, Prof John Last CBE, Claire Long, Dr Rhiannon Mathias, Prof Paul Mealor LVO CStJ